DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Datganiad ar hynt gwaith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru

DYDDIAD

23 Mai 2023

GAN

Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

 

Ym mis Tachwedd, rhennais adroddiad cynnydd ar waith y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru.

 

Dyma’r adroddiad cynnydd diweddaraf a gafwyd gan y Cydgadeiryddion ers i’r Comisiwn lunio ei adroddiad interim ym mis Rhagfyr https://www.llyw.cymru/comisiwn-annibynnol-ar-ddyfodol-cyfansoddiadol-cymru-adroddiad-cynnydd-ebrill-2023.

 

Yn benodol, byddwn yn tynnu eich sylw at lwyfan digidol Y Safle Sgwrsio (defnyddiadylais.cymru) / Engagement Space (useyourvoice.wales). Fel yr wyf wedi ei ddweud eisoes, mae’n bwysig bod gwaith y Comisiwn yn seiliedig ar brofiadau dyddiol a barn cymunedau ledled Cymru. Rwy’n eich cymell felly i annog pobl o’r cymunedau rydych chi’n eu cynrychioli i ymwneud â’r Comisiwn ac i rannu eu barn.

 

Yn gynharach y mis hwn, cafodd y Prif Weinidog, Adam Price AS, a finnau y cyfle i gyfarfod â’r Cydgadeiryddion er mwyn cael diweddariad ar eu gwaith hyd yma. Rydym wedi ein sicrhau bod y Comisiwn ar y trywydd iawn o ran cyhoeddi ei adroddiad terfynol, gan gynnwys argymhellion, erbyn diwedd 2023.